LeonardEDWARDSDymuna Liz, Sandra, Barry a Mark ddatgan eu diolch am bob arwydd o gydymdeimlad a charedigrwydd a ddangoswyd tuag atynt yn eu profedigaeth o golli eu brawd Len, 14 Llys Buddug, Caernarfon.
Gwerthfawrogwyd y llu o gardiau, negeseuon, galwadau ffôn a'r ymweliadau, a diolch yn arbennig am y rhoddion er cof am Len tuag at Gisda.
Diolch i Canon Dylan Williams am ei wasanaeth teilwng ac i'r organyddes, Mrs Eurwen Darwood. Mawr ddiolch i Iolo a phob aelod o staff yn Roberts & Owen am y gwasanaeth urddasol a'r trefniadau trylwyr a gofalus.
Keep me informed of updates
Add a tribute for Leonard